GRIFFITHS, DAVID (1792 - 1863), cenhadwr

Enw: David Griffiths
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1863
Plentyn: Jane John (née Griffiths)
Plentyn: Mary Ann Jones (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ebenezer Curig Davies

Ganwyd 20 Rhagfyr 1792 yn Glanmeilwch, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd bregethu yn 1812, aeth i academi Neuaddlwyd yn 1814, a'r un flwyddyn derbyniwyd ef i goleg Wrecsam. Aeth i Goleg y Cenhadon yn Gosport yn 1817. Enwyd ef i fyned i faes y genhadaeth ym Madagascar. Ordeiniwyd ef ar 27 Gorffennaf 1820; hwyliodd gyda'i wraig ym mis Hydref y flwyddyn honno a chyrraedd pen y fordaith yng ngwanwyn 1821. Llafuriodd ym Madagascar am 15 mlynedd eithr bu raid iddo adael yr ynys yn adeg yr erlid. Condemniwyd ef i farwolaeth eithr newidiwyd y ddedfryd ar yr amod ei fod yn talu pridwerth ac yn addo gadael yr ynys; cymerwyd ei holl eiddo personol oddi arno heb dalu iddo unrhyw iawn. Treuliodd beth amser ar arfordir Affrica yn ceisio cynorthwyo'r Cristionogion brodorol i ddianc. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr ym mis Chwefror 1842 ymsefydlodd yn y Gelli Gandryll. Gwnaeth lawer dros y Malagasi, gan ysgrifennu a chyfieithu llyfrau. Ei brif weithiau ydoedd Hanes Madagascar (yn Gymraeg), Hanes y Merthyron (yn Saesneg), gramadeg iaith y Malagasi, catecismau, llyfrau emynau, etc. Cyfieithodd y Beibl (gyda chymorth rhai eraill) i iaith y Malagasi; golygodd ac adolygodd hefyd lawer o lyfrau - Taith y Pererin yn eu plith. Priododd Griffith John un o'i ferched. Symudodd i Machynlleth ac yno y bu farw ar 21 Mawrth 1863; claddwyd ef ym mynwent capel y Graig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.