GRIFFITHS, EVAN (1778 - 1839), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Evan Griffiths
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1839
Priod: Mary Griffiths
Rhiant: Margaret Griffiths (née Evans)
Rhiant: Edward Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Un o'r wyth o'r Gogledd a ordeinwyd yn 1811. Ganwyd yn y Rhos Fawr, yn ardal Meifod, 12 Mawrth 1778, yn fab i Edward Griffiths a'i wraig Margaret (Evans) - mab arall iddynt oedd Thomas Griffiths, priod yr emynyddes Ann Griffiths. Symudodd y fam a'i phlant i'r Ceunant, Meifod, lle y dechreuodd Evan bregethu yn 1802.

Bu farw 6 Medi 1839. Y mae cofiant iddo, gan John Hughes, Pontrobert, 1840.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.