GRIFFITHS, GRIFFITH (1799 - 1845), cenhadwr dan nawdd Eglwys Loegr

Enw: Griffith Griffiths
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1845
Rhiant: Elizabeth Griffiths
Rhiant: Griffith Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr dan nawdd Eglwys Loegr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

bedyddiwyd ef 24 Rhagfyr 1799, yn fab i Griffith ac Elizabeth Griffiths, Ty'n-nant, Llanfihangel-geneu'r-glyn, Sir Aberteifi. Cafodd addysg o dan yr archddiacon John Williams yn ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan. Ar ôl cael ei ordeinio yn ddiacon hwyliodd i Jamaica yn 1825 i fod yn genhadwr o dan gymdeithas Eglwys Loegr er hyrwyddo lledaeniad yr efengyl mewn gwledydd tramor; cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn Jamaica gan yr esgob Lipscombe, a'i ddewis i weithio yn rhanbarth Marchioneal Bay; fe'i symudwyd i Portland yn 1833 ac, yn ddiweddarach, i Trelawney. Gweinidogaethodd gyda llwyddiant ymysg y negroaid mewn cyfnod terfysglyd, sef pan oeddid yn rhyddhau'r caethion. Bu farw 8 Rhagfyr 1845.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.