GRIFFITH, JOHN (fl.1548-87), gwr o'r gyfraith sifil

Enw: John Griffith
Rhiant: Margaret ferch John Wyn ap Meredith
Rhiant: William Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwr o'r gyfraith sifil
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab (mae'n debyg) i William Griffith (bu farw 1587), Plas Mawr, Caernarfon, a Threfarthen, Llanidan, sir Fôn, mab hynaf ail briodas Syr William Griffith o'r Penrhyn. Margaret, merch John Wyn ap Meredith o Wydir, a modryb y Syr John Wynn 1af, oedd ei fam. Gwnaethpwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen, yn 1548, cymerodd ei B.C.L. yn 1551 (18 Gorffennaf), a gradd doethur yn 1563 (7 Gorffennaf).

Yn 1559 (23 Chwefror) caniataodd y frenhines Elisabeth i William Awbrey drosglwyddo i Griffith ei gadair 'Regius' y gyfraith sifil yn Rhydychen. Cadwodd Griffith y swydd hon hyd 1566; o'r flwyddyn 1561 hyd 1564 yr oedd yn brifathro New Inn Hall yr un pryd. Ar 26 Chwefror 1564 fe'i derbyniwyd yn aelod o Doctors' Commons. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caernarfon yn 1571 a gwasanaethodd fel siryf sir Gaernarfon yn 1582-3 a sir Fôn yn 1587.

Yr oedd ei frawd iau, WILLIAM GRIFFITH, LL.D., yn farnwr y Morlys dros Sir Gaernarfon ac yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caernarfon yn 1586. Y flwyddyn ddilynol bu'n gyfrifol am gychwyn yr ymchwil a lwyddodd ymhen ychydig i ddarganfod y twr o Babyddion a oedd yn cyfarfod yn ogof Rhiwledyn yn y Creuddyn a chanddynt eu gwasg argraffu eu hunain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.