GRIFFITH, JOHN (fl. 1649-69), Llanddyfnan, bardd ac uchelwr

Enw: John Griffith
Rhiant: Dorcas Griffith (née Prydderch)
Rhiant: John Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac uchelwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Nid hawdd yw ei leoli yn ach y teulu; mae cynifer o'r un enw mor agos i'w gilydd; ond y mae lle i dybied mai ef yw'r 7fed John Griffith yn yr ach honno, a'i fod felly yn fab i John Griffith VI a Dorcas, merch William Prydderch, rheithor Llanfechell. Ychydig a wyddys amdano y tu allan i'w ganu. Ceir llawer o'i waith - yn garolau, englynion, a chywyddau - ymhlith llawysgrifau Mostyn, Llanstephan, a Henblas yn y Llyfrgell Genedlaethol a llawysgrifau ychwanegol yr Amgueddfa Brydeinig. Fel eglwyswr a phleidiwr selog i'r brenin Siarl I, teimlai'n bur anfodlon o dan drefn y Piwritan, ac mewn rhai o'i gywyddau a'i gerddi rhydd ceir beirniadaeth finiog o'r drefn honno fel yr effeithiai ar ei fro ef ei hun. Ni lwyddwyd i weled dim diweddarach na 1669 ganddo, sef marwnadau Edward Wynne, Bodewryd, a Mrs. Lumley Lloyd, Lligwy. Yn ôl copi'r esgob ('Bishop's Transcript') o gofrestr y plwyf, claddwyd rhyw John Griffith yn Llanddyfnan ar 11 Mai 1675, ond nid oes dim sicrwydd mai'r bardd ydoedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.