GRIFFITH, JOHN (1713-1776), Crynwr;
g. 21 Mai 1713 yn sir Faesyfed. Ymfudodd i America yn 1726 ac ymunodd â'r Crynwyr gan ddyfod yn weithiwr diflino drostynt. Dychwelodd i Loegr fis Ionawr 1748 a theithiodd 12,000 o filltiroedd yng nghwrs dwy flynedd a hanner. Aeth yn ôl i'r America fis Mai 1750, eithr dychwelodd ym mis Hydref; priododd Frances Wyatt, Chelmsford, swydd Essex, lle y bu byw weddill ei oes ond am un daith arall i America, 1765-6. Bu f. 17 Mehefin 1776, a chladdwyd ef yng nghladdfa'r Crynwyr yn Chelmsford. Cyhoeddodd Journals of his Life, Travels, and Labours in the Work of the Ministry … (amryw argraffiadau, Llundain a Philadelphia) a Some Brief Remarks upon Sundry Important Subjects … principally addressed to the … Quakers … (London, 1768, etc.).
Llyfryddiaeth:
- H. Blackwell, ‘Bibliog. of Welsh Americana’ yn Ll.G.C.
Awdur:
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor