GRIFFITHS, JOHN (1837 - 1918), arlunydd

Enw: John Griffiths
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Mary Griffiths (née Evans)
Rhiant: Evan Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Charles Heber Humphreys

Ganwyd yn Llanfair Caereinion 29 Tachwedd 1837, yn fab i Evan Griffiths a'i wraig Mary Evans (o Fachynlleth); ar farw'r tad, aeth y fam i gadw ty i Syr James Clarke, meddyg i'r frenhines Victoria. Magwyd y bachgen gan ei ewythr Richard Griffiths, Neuadd Uchaf, Llanfair; ond pan sylwodd Syr James ar ei dueddiadau, rhoes ef dan addysg yn y sefydliad a elwir heddiw'n ' Royal College of Art.' Bu wedyn yng ngwasanaeth y South Kensington Museum, a bu'n gweithio ar addurno adeiladau'r amgueddfa. Yn 1865, penodwyd ef yn athro celfyddyd yn y Bombay School of Arts; daeth wedyn yn brifathro arni; ei gydweithiwr a'i gyfaill pennaf yno o 1865 hyd 1875 oedd John Lockwood Kipling, tad Rudyard Kipling. Dan arolygiaeth Griffiths yr addurnwyd llawer o adeiladau cyhoeddus newyddion Bombay. Ond ei wasanaeth gwerthfawrocaf oedd cadw, a dwyn i oleuni, hen gelfyddyd yr oesau gynt yn India. Yn neilltuol, copïodd y darluniau ar furiau'r temlau Bwdistaidd yn ogofau Ajanta, darluniau sy'n mynd yn ôl i tua 200 C.C.; rhoddwyd y copïau hyn i gadw yn South Kensington, a chyhoeddwyd dwy gyfrol 'folio' ohonynt yn 1896-7 ar orchymyn Llywodraeth India. Golygfeydd yn India, a darluniau o'r bywyd brodorol, oedd y rhan fwyaf o ddarluniau Griffiths ei hunan; y mae dau ohonynt yn y casgliad brenhinol. Dychwelodd o India yn 1895, a bu'n byw am beth amser yn y Gwernydd, Manafon; ond symudodd wedyn i Norton, Sherborne, a bu farw yno 1 Rhagfyr 1918. Yr oedd yn briod, a chanddo ddwy ferch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.