GRIFFITH, JOHN (1863 - 1933), athro ysgol, a cherddor

Enw: John Griffith
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1933
Priod: Dorothy Griffith (née Jones)
Rhiant: Martha Griffith
Rhiant: Sion Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ysgol, a cherddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Llewelyn Wyn Griffith

Ganwyd 18 Ebrill 1863 yn Rhiw, Llŷn, Sir Gaernarfon, mab hynaf Siôn Griffith, crydd, Penygroes, Rhiw, a Martha Griffith, Pen Nebo, Rhiw. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Botwnnog, a bu'n ddisgybl-athro yn Nebo, Llanllyfni, cyn mynd i Goleg Normal Bangor, (1881-2). Daeth yn brifathro 'r Ysgol Frutanaidd yn Glanwydden ac wedyn ym Machynlleth. Priododd Dorothy, merch Owen Jones, Siop Fawr, Talysarn, Sir Gaernarfon, yn 1889, a bu iddynt bedwar mab ac un ferch. Yn 1897 daeth yn ' Tate Exhibitioner ' yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor; yn 1899 graddiodd yn B.Sc. (Llundain) gydag anrhydedd yn yr ail ddosbarth mewn anianeg a llysieueg. Bu'n athro gwyddoniaeth yn ysgol sir Ffestiniog am gyfnod, ac yn brifathro ysgol ramadeg Dolgellau o 1904 hyd 31 Mawrth 1925.

Yr oedd John Griffith yn gerddor da, a rhoes lawer o'i amser segur yn ystod ei oes i hyrwyddo perfformio cerddoriaeth glasurol - corawl ac offerynnol. Bu'n gadeirydd ffestifal gerddorol Harlech pan adnewyddwyd hi; bu hefyd yn gyd-olygydd Y Cerddor. Paratôdd eiriau Cymraeg i ' Song of Miriam ' (Schubert) a'r ' Scenes from Gluck's Orpheus.' Yr oedd yn ddaearegwr hefyd, a bu'n gweithio am flynyddoedd gyda J. R. Dakyns yn paratoi map daearegol o ardal Eryri. Wedi ymneilltuo bu'n cyfieithu Plato i'r Gymraeg, eithr ni chyhoeddodd mo'i ysgrifeniadau. Fe'i bodlonodd ei hun trwy fod yn ysgolfeistr da, gan edrych am ei daledigaeth yng nghampwaith ei ddisgyblion a chyfoethogi'r bywyd o'i gylch. Bu farw 6 Tachwedd 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.