GRIFFITH, JAMES MILO (1843-1897), cerflunydd;
g. 11 Mehefin 1843 ym Mhontseli, Penfro, a phrentisiwyd ef dan nawdd yr esgob pan oeddid yn ailadeiladu eglwys gadeiriol Llandaf. Yn 20 oed aeth i ysgol y Royal Academy, Trafalgar Square, Llundain. Ei brif weithiau, yn y tymor hwn, oedd ‘Y Celfau Cain’ ar yr Holborn Viaduct, ‘Y Pedwar Efengylydd’ yn eglwys gadeiriol Bryste, a'r ffynnon yn Bridgnorth. Yn 1875 gosodwyd ei ‘Flodau Haf’ yng nghastell Margam gan C. M. Talbot. Ar un achlysur derbyniodd y Royal Academy gynifer ag wyth o'i weithiau — sef yr uchafrif a ganiateid. Arddangosai'n rheolaidd yn yr eisteddfod genedlaethol, ac yn 1883 traddododd anerchiad nodedig ar ‘Perthynas yr Eisteddfod a Chelfyddyd.’ Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw cerflun John Batchelor yng Nghaerdydd (1884) a Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon (1888). Yn 1885 cynlluniodd y darian arian a gyflwynwyd, ar eu jiwbili, i dywysog a thywysoges Cymru. Enillodd ei fodel o ‘Ymdaith Sheridan’ sylw mawr yn ffair Chicago. Wedi bod yn athro celfyddyd am dymor yn San Francisco dychwelodd i Lundain yn 1896 a bu f. yno, 8 Medi 1897, yn 54 mlwydd oed. Y mae amryw o'i weithiau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Llyfryddiaeth:
- Gen. (Gŵyl Dewi), 1898;
- Scrap-book gan Milo Griffith, yn eiddo ei nai, Mr. Baldwin Richards, Aberaeron.
Awdur:
Y Parch. Athro John Oliver Stephens, M.A., B.D., (1880-1957), Caerfyrddin