GRIFFITHS, MORRIS (fl. 1766-1805), cynghorwr Methodistaidd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac emynydd

Enw: Morris Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Cawn ef yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid ym Mhrendergast, ger Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1766; ' lay preacher ' oedd pan alwodd yn Nhrefeca yn 1776. Bedyddiwyd ef yn 1779 yn Llangloffan, ac urddwyd ef yn un o weinidogion yr eglwys honno yn 1788. Bu farw yn 1805. Cymysgir ef yn aml â Morris Griffiths, Trefgarn. Cyhoeddodd Marwnad … John Davies, Pregethwr yr Efengylyn Sir Benbro, c. 1765; Defnyddiol Hymnau i Breswylwyr y Graig (Trefeca, 1779); Llythyr Caredig, 1786; Egwyddorion Difinyddiaeth, 1789 - math o gyffes ffydd a phennill ar ddiwedd pob pwnc ynghyda thri emyn; a Dammeg, mewn Dull o Ymddiddan rhwng Credadyn a Mr. Ewyllys-Rhydd a Satan (Trefeca, d.d.). Yn ôl ' Gwilym Lleyn ' cyhoeddodd hefyd Dull o Ymddiddan rhwng Gweinidog yr Efengyl, a Disgybl ieuanc dan holiad, yn 1784. Ni bu ei emynau erioed mewn bri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.