GRIFFITH, JOHN OWEN ('Ioan Arfon'; 1828 - 1881), bardd a beirniad

Enw: John Owen Griffith
Ffugenw: Ioan Arfon
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1881
Priod: Ann Griffith (née Roberts)
Plentyn: Robert Arthur Griffith
Rhiant: Owen Griffith Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a beirniad
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd yn y Fronllwyd, Waun Fawr, mab Owen Griffith Owen, chwarelwr. Dysgodd ddarllen yn ysgol Sabothol Annibynwyr Moreia, Waun Fawr, a chafodd ddwy flynedd o ysgol ddyddiol cyn myned i weithio i chwarel Dinorwig yn 12 oed. Cafodd gefnogaeth gan 'Huw Tegai' a 'Caledfryn' i astudio llenyddiaeth Gymraeg. Yn 1865 enillodd gadair eisteddfod Bethesda am awdl ar 'Adda.' Ei waith gorau ydyw ei gywyddau i'r 'Nos,' 'Gobaith,' a 'Chartref.' Cyfansoddodd hefyd gerdd goffa ar ôl 'Glasynys.' Priododd Ann, merch tyddyn yn y Waun Fawr o'r enw Ala-bawl. Bu iddynt chwech o blant - yr hynaf ohonynt oedd R. A. Griffith ('Elphin'). Ar ôl priodi aeth am chwe mis o ysgol ac yna agorodd siop groser yn 23 High Street, Caernarfon, gyferbyn â swyddfa'r Herald Cymraeg y pryd hwnnw, a daeth ei siop yn ganolfan llenyddol tref Caernarfon. Yno yr oedd 'Llew Llwyfo' ac 'Alfardd,' golygyddion yr Herald, yn ymwelwyr cyson; 'Gwilym Alltwen,' 'Cynddelw,' John Morgan ('Cadnant'), a'r 'Thesbiad' yn fynych; 'Hwfa Môn,' 'Mynyddog,' a 'Ceiriog' ar eu tro, a châi 'Bro Gwalia,' o'r un nodwedd â'r ' Bardd Cocos,' yr un croeso. Cyfrifid 'Ioan Arfon' yn gryn awdurdod ar ddaeareg yn ei ddydd, a chyhoeddodd lyfr ar y testun, Traethawd Ymarferol ar Lechfeini Sir Gaernarfon, 1864, ac yr oedd ef a'i gyfeillion 'Alfardd' a 'Gwilym Alltwen' ar bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru a gyfarfu gyntaf 21 Mawrth 1874. Ymgynghorai 'Alfardd' ag ef cyn cyhoeddi ei ysgrifau i ymosod ar y barnwr Horsham Cox ac eraill a fynnai gau'r iaith Gymraeg allan o'r llysoedd gwladol. 'Ioan Arfon' a olygodd y gyfrol, Barddoniaeth Cynddelw , a gyhoeddwyd yn 1877, a Lloffion y Flwyddyn, sef y farddoniaeth a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg yn ystod y flwyddyn 1878.

Bu 'Ioan Arfon' farw 22 Tachwedd 1881 a chladdwyd ef ym mynwent Bryn-'r-odyn; y cludwyr oedd 'Clwydfardd,' 'Ceiriog,' 'Llew Llwyfo,' ac 'Elidirfab.' Ceir hir-a-thoddaid iddo o waith Daniel Owen yn y Geninen, 1883, 143.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.