GRIFFITH, THOMAS TAYLOR (1795 - 1876), meddyg a hynafiaethydd

Enw: Thomas Taylor Griffith
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1876
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: Arthur Herbert Dodd, Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Wrecsam, 11 Rhagfyr 1795, un o un-plentyn-ar-ddeg (a mab hynaf) Thomas Griffith (1753 - 1846), meddyg, a gor-ŵyr John Griffith neu Siôn Gruffydd, (1654 - 1698), Cae Cyriog, Rhiwabon, achyddwr ac arwyddfardd, a fu farw 31 Hydref 1698. Yr oedd teulu Griffithiaid Cae Cyriog (Hafod, Rhiwabon) yno tua 1450 o leiaf (Powys Fadog, ii, 184). Daeth ei lawysgrif ef i ddwylo ei ŵyr Thomas Taylor Griffith (fe'u dangoswyd ganddo i'r Cambrian Archaeological Association yng nghyfarfod Wrecsam yn 1874). Yn 1910 fe'u rhoddwyd yng nghadwraeth Ll.G.C., ac yn 1923 daethant yn eiddo iddi - NLW MSS 7006-10 . Y pwysicaf ohonynt yw 'NLW MS 7006D: Llyfr Du Basing ' (gweler dan Gutun Owain). NLW MS 7008E yw casgliad John Griffith o achau Gogledd Cymru.

Addysgwyd Thomas Taylor Griffith yn ysgol Dr. Williams a'r ysgol ramadeg yn Wrecsam; wedi iddo orffen ei brentisiaeth gyda'i dad aeth i ysbytai Guy a S. Bartholomew, Llundain, wedi hynny i Leeds o dan Hoy (1810), ac yna i Paris o dan Puytryne; daeth yn M.R.C.S. yn 1817 ac yn gymrawd (anrhydeddus) yn 1844. Dechreuodd fel partner gyda'i dad, c. 1820; yn 1826 aeth ar ei gyfrifoldeb ei hun, gan briodi, yr un flwyddyn, ŵyres William Robertson (1721 - 1793), yr hanesydd Ysgotaidd. Bu'n gweini ar y dywysoges Victoria yn 1832 pan oedd hi yn ymweld â Wynnstay gyda duges Caint.

Bu iddo ran bwysig yn sefydlu (1) adran Gogledd Cymru o'r British Medical Association (bu'n llywydd yr adran ddwywaith), ac (2) ysbyty Wrecsam (1832), lle y mae darlun ohono yn hongian. Bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o ymgorffori Wrecsam (1849-57), a rhoes arian i waddoli cronfa ymddiriedolwyr eithr gwrthododd gael ei ddewis yn faer cyntaf y dref. Yr oedd ef a'i wraig ymhlith arloeswyr addysg rad yn y dref, gan gynorthwyo i gychwyn ysgol i'r tlodion, y 'Ragged School' (1852-81) a gwasanaethu fel ei thrysorydd cyntaf. Bu farw 6 Gorffennaf 1876.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.