GRIFFITHS, THOMAS (1645 - 1725) gweinidog cyntaf eglwys Fedyddiedig y Welsh Tract yn nhalaith bresennol Delaware, U.D.A.;

Enw: Thomas Griffiths
Dyddiad geni: 1645
Dyddiad marw: 1725
Priod: Elizabeth Griffiths
Plentyn: Judith Morgan (née Griffiths)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog cyntaf eglwys Fedyddiedig y Welsh Tract
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn Llanfyrnach, Sir Benfro, yn 1645, ond 'o blwyf Melinau ' yw'r disgrifiad ohono ef ac Elizabeth ei wraig yng nghofrestr eglwys Rhydwilym yn 1689. Nid oes dystiolaeth yn llyfr yr eglwys ei fedyddio yno, fel y dywed rhai ysgrifenwyr, yn 1677, nac ychwaith ei ordeinio yn un o gydweinidogion a chynorthwywyr William Jones, ond gwyddys mai ef a arweiniodd y fintai fechan o'r aelodau a ymfudodd i'r America yn 1701, ac ymsefydlu i ddechrau yn Penepek, Pennsylvania, ac yn 1703 yn y Welsh Tract. Bu farw 25 Gorffennaf 1725, yn 80 oed, a'i gladdu, yn Penepek medd rhai ond yn fwy na thebyg ym Mhencader, Delaware. Mab-yng-nghyfraith iddo oedd Abel Morgan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.