GRIFFITH, JOHN THOMAS (1845 - 1917), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: John Thomas Griffith
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1917
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd yn Penyparc, Bro Morgannwg, 1 Ionawr 1845. Bedyddiwyd ef 20 Mai 1859 ym Mhisgah, Pîl, gan John Roberts ('Fawr'). Ceir ef yn Aberpennar yn 1862. Dechreuodd bregethu, a phriododd yn Ionawr 1865. Ymfudodd i Scranton, America, a gweithiai mewn glofa. Fe'i hordeiniwyd gyda'r Cymry yn Newburg, Cleveland. Bu mewn 20 o eglwysi. Claddodd ei wraig yn 1905, a phriododd ferch o Risca yn 1907. Dychwelodd o Edwardsdale i Gymru yn 1908. Ar ôl bugeilio eglwys Saesneg Maerdy am ychydig, ymneilltuodd i Fynydd Cynffig. Cychwynnodd achos Saesneg Kenfig Hill yn 1911. Ceid ef yn Thomastown, Tonyrefail, o Fedi 1912 hyd Dachwedd 1913. Ymwelodd ag America yn 1914. Lluestodd wedi dychwelyd ym Maesteg gan ymaelodi ym Methania hyd ei farwolaeth 19 Mehefin 1917. Darlithiodd lawer ar faterion hanesyddol ynglŷn â'r enwad. Cyfieithodd gyfrolau Spinther ar Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru yn Saesneg a'u cyflwyno i athrofa Crozer, America. Ysgrifennodd Morgan John Rhys yn Saesneg (1899) ac yn Gymraeg yn 1910; Hanes Eglwys Fedyddiedig Penyfai, 1916; Reminiscences , 1913, atgofion o'i fywyd yn America, Ebrill 1865-Ebrill 1908; Brief Biographical Sketches of Welsh Baptist Ministers in Pennsylvania , 1904, trigain namyn un; History of the first Baptist Church of Wilkesbarre and Scranton , 1905.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.