GRIFFITH, WALTER (1727 - 1779), capten yn y llynges

Enw: Walter Griffith
Dyddiad geni: 1727
Dyddiad marw: 1779
Rhiant: Ralph Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: capten yn y llynges
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 15 Mai 1727, a gafodd yrfa ddisglair a adroddir yn y D.N.B. ac (yn llawnach) yn Montgomeryshire worthies . Aeth i'r môr yn 16, bu'n rhyfela hyd 1748, ac wedyn (hyd 1750) ar swydd yn India'r Gorllewin. O 1756 ymlaen, bu ganddo ran yn y Rhyfel Saith Mlynedd; codwyd ef yn gapten yn 1759, a hynododd ei hunan yn y symudiadau a arweiniodd i frwydr Quiberon Bay; o 1760 hyd yr heddwch yn 1763 yr oedd ar y Môr Canoldir. Ailymunodd â'r llynges pan dorrodd rhyfel America, a lladdwyd ef gerllaw ynys S. Lucia 18 Rhagfyr 1779. Nid disgynnydd o hen deulu ym Meirion oedd ef (fel y dywedir yn y D.N.B.), ond mab ieuangaf Ralph Griffith o'r Fron-gain yn Llanfechain (J. E. Griffith, Pedigrees, 119, 233). Yn ôl Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen fe'i ganwyd 'yn hendre ei hen deulu yng Nghaer Rhun ' (gerllaw Conwy), ond y mae'n haws credu Montgomeryshire worthies , a ddywed mai ym Mron-gain y ganwyd ef. Efallai fod yma gymysgu â Walter Griffith arall, yntau yn y llynges, sef nai iddo, fab ei frawd hynaf Ralph Griffith - gwraig gyntaf y Ralph hwn oedd Catherine Jones, aeres Daviesiaid Caer Rhun (Griffith, op. cit., 233), ond ailbriododd; mab o'r ail briodas oedd yr ail Walter Griffith, a gymerth y cyfenw ' Booth ' yn 1798.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.