Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH, GEORGE WILLIAM (1584-1655?), tir-feddiannwr, cyfreithiwr, ustus heddwch, hynafiaethydd, o Benybenglog, sir Benfro; g. 21 Ebrill 1584, mab hynaf William Griffith. Priododd, 22 Tachwedd 1605, Maud Bowen o Lwyngwair, a bu iddynt saith o blant. Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyhoeddus yn sir Benfro gan gyngor y gororau, yr oedd yn ddistain barwniaeth Cemaes, cynorthwyodd George Owen [q.v.], Henllys, gyda'i ymchwiliadau hanesyddol, ac ysgrifennodd lawer o lawysgrifau achau. Croesawodd feirdd Cymru benbaladr i'w blas, ac ef oedd un o'r boneddwyr olaf yn Ne Cymru i noddi beirdd yn ôl yr hen arferiad. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol ochrodd gyda Cromwell, ac yr oedd yn aelod o bwyllgorau seneddol. Ymosodwyd ar Benybenglog gan filwyr y brenin, a difrodwyd ei eiddo. Profwyd ei ewyllys yn P.C.C. ar 9 Awst 1655. Claddwyd ef ym Meline.

Llyfryddiaeth:

  • Trans. Cymm., 1938 a 1949;
  • MSS. yn LI.G.C. a'r College of Arms.

Awdur:

Major Francis Jones, M.A., F.S.A., Llundain / Caerfyrddin