Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , WILLIAM ( 1704 - 1747 ), Morafiad Cymreig cynnar (un o aelodau gwreiddiol eu Cynulleidfa yn Llundain) ;

g. ym Mhenmorfa , Eifionydd , Chwefror 1704 (gall mai 1703 ). Yn grydd yn Llundain , ymunodd â'r Methodistiaid , ond erbyn 1742 yr oedd wedi troi at y Morafiaid . Yn 1743 , anfonwyd ef ar daith i Gymru — y mae'n debyg mai ef oedd y cenhadwr Morafaidd cyntaf yn sir Benfro . Wedi dal amryw swyddau yn Eglwys y Brodyr yn Llundain , bu f. pan ar ymweliad â'r Almaen , ar derfyn 1747 .

Ffynonellau:

  • Y Cymmrodor , xlv ( 1938 ), 21-5.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54