GRIFFITHS, WILLIAM (1777 - 1825), gweinidog Annibynnol ac athro

Enw: William Griffiths
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1825
Rhiant: John Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Glandŵr, Penfro, ail fab John Griffiths. Addysgwyd yn ysgol 'un Mr. Foyle,' ysgol ei dad, a Hwlffordd. Derbyniwyd ef i athrofa Wrecsam, 2 Chwefror 1795, a bu'n athro cynorthwyol yno yn ystod ei flwyddyn olaf. Ordeiniwyd ef yn gydweinidog â'i dad, 23 Mai 1803 (?). Daeth yn amlwg fel pregethwr yn Gymraeg a Saesneg. Dioddefodd oddi wrth anhwylder mawr yn 1809 a thrachefn yn 1824, a bu farw 5 Ionawr 1825. Ymddiddorai'n fawr mewn cyfansoddi a chyfieithu emynau; ceir amryw o'i eiddo yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.