GRONOW, REES HOWELL (1794 - 1865), sgrifennwr atgofion

Enw: Rees Howell Gronow
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: William Gronow
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sgrifennwr atgofion
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 7 Mai 1794, yn fab hynaf William Gronow (bu farw 1830) o Abertawe. O ysgol Eton, aeth i'r fyddin; yr oedd yn swyddog yn 1812, a bu'n brwydro yn Sbaen, 1812-4, ac wedyn yn Waterloo; codwyd ef yn gapten ar ôl hynny, ond ymadawodd â'r fyddin yn 1821. Gan fod ganddo ddigon o fodd; ymroes i fyw (yn Llundain gan mwyaf) 'fel gŵr bonheddig.' Rhydd ei brofiad milwrol a chymdeithasol werth i'w bedwar llyfr: Reminiscences of Captain Gronow, 1862; Recollections and Anecdotes, 1863; Celebrities of London and Paris, 1865; a Last Recollections … being the fourth and final series (a gyhoeddwyd yn 1866, wedi ei farw). Bu farw ym Mharis, 20 Tachwedd 1865.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.