GRUFFUDD ab ADDA ap DAFYDD (fl. 1340-1370), llenor

Enw: Gruffudd ab Adda ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Walter Thomas Morgan

Yr oedd yn gyfoeswr ac yn gyfaill i Dafydd ap Gwilym a ganodd farwnad iddo, lle y ceir rhai manylion amdano. Yr oedd yn frodor o Bowys Wenwynwyn, a lladdwyd ef gan ei gâr yn Nolgellau, lle y claddwyd ef. Ceir cyfeiriadau at ei farddoniaeth ym Mynegai Jones a Lewis; gweler hefyd Brogyntyn MS. 2 yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y mae ei waith yn cynnwys rhai o'r ychydig enghreifftiau o ryddiaith y 14eg ganrif sydd ar gael, sef ' Breuddwyd Gruffudd ab Adda ' (a argraffwyd gan ' Gweirydd ap Rhys ' yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig a chan Penar Griffiths yn Rhyddiaith Gymreig), a ' Trwstaneiddrwydd Gruffudd ab Adda ap Dafydd ' (a argraffwyd yn Y Cydymaith Diddan, 1766). Yr oedd hefyd yn gerddor, ac argraffwyd ei ' Gainc Ruffudd ab Adda ' yn y The Myvyrian Archaiology of Wales .

Yn yr ail arg. o D.G.G. 1935, dangosir nad y bardd oedd y gwr a fu farw tua 1344, ond gwr arall - amdano gweler D.G.G. 2, xc-xci, a dechrau'r ysgrif ' Wynn, Pryse, a Corbet,'. Cred Syr Ifor Williams fod y bardd wedi blodeuo rhwng 1340 a 1380.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.