GRUFFUDD ap CYNAN
(
c.
1055
-
1137
),
brenin Gwynedd
.
Ei dad oedd
Cynan ap Iago
, a oedd yn alltud yn
Iwerddon
, a'i fam oedd
Rhagnell
(Ragnhildr)
, o deulu brenhinol
Sgandinafiaid
Dulyn
. Er
1039
, pan laddwyd
Iago
trwy frad ei wŷr ei hun
, bu
Gwynedd
o dan reolaeth treiswyr nad oeddynt o linach frenhinol y wlad. Un o'r rheini oedd
Bleddyn ap Cynfyn
, a laddwyd yn
1075
, ac a ddilynwyd ar yr orsedd gan ei gefnder,
Trahaearn ap Caradog
,
brenin Arwystli
. Yn y flwyddyn honno daeth
Gruffudd
drosodd o
Iwerddon
i geisio ennill ei dreftadaeth, a glaniodd yn
Abermenai
. Gyda help
Robert
o
Ruddlan
gorchfygwyd a lladdwyd
Cynwrig
, a deyrnasai yn
Llŷn
o dan
Drahaearn
. Mewn brwydr ym
Meirionnydd
gorchfygwyd
Trahaearn
yntau, a'i yrru ar ffo i'w wlad ei hun,
Arwystli
. Fel
brenin Gwynedd
y peth cyntaf a wnaeth
Gruffudd
oedd ymosod ar y castell
Normanaidd
newydd yn
Rhuddlan
, er gwaethaf yr help a gawsai gan
Robert
. Dug ymaith gryn ysbail, ond nid enillodd y castell. Oherwydd casineb at y
Daniaid
ym myddin
Gruffudd
gwrthryfelodd gwŷr
Llŷn
, a manteisiodd
Trahaearn
ar y cyfle i ymosod ar
Gruffudd
a'i orchfygu ym
Mron-yr-erw
ger
Clynnog
. Ffoes
Gruffudd
yn
ôl i
Iwerddon
. Yn
1081
dychwelodd, a glanio ym
Mhorth Clais
yn
Nyfed
, ac ymuno â
Rhys ap Tewdwr
, gŵr a oedd yntau yn ceisio adennill ei diriogaeth, sef
Deheubarth
. Cyfarfuant â
Trahaearn
ym
Mynydd Cam
, a lladdwyd ef, ac felly daeth
Gruffudd
unwaith eto yn
frenin Gwynedd
. Ond yn fuan, trwy frad un o'i frehyrion ef ei hun,
Meirion Goch
, daliwyd ef gan y
Normaniaid
yn y
Rug
, ger
Corwen
, a'i ddwyn yn garcharor i
Gaer
. Tra bu ef yng ngharchar enillodd y
Normaniaid
lawer o dir yng
Ngwynedd
, a chodwyd cestyll ganddynt ym
Mangor
,
Caernarfon
, ac
Aberlleiniog
. Nid oes sicrwydd pa hyd y bu
Gruffudd
yn garcharor (dywed yr
Hanes
mewn un man mai 12 mlynedd, ac mewn man arall mai 16), ond yr oedd yn rhydd erbyn
1094
(ac efallai gryn dipyn cyn hynny), ac yn amlwg yn yr ymgyrch a fu drwy'r wlad yn erbyn y
Normaniaid
y flwyddyn honno. Ond yn
1098
daeth y
Normaniaid
o
Gaer
ac o
Amwythig
ar warthaf
Gwynedd
. Gwarchaewyd
Gruffudd
ym
Môn
, a gorfu iddo ddianc unwaith yn rhagor i
Iwerddon
. Dychwelodd y flwyddyn wedyn a chafodd reoli ym
Môn
drwy ganiatâd y
Normaniaid
. Rhywbryd yn ystod y blynyddoedd dilynol daeth yn
arglwydd
ar
Wynedd uwch Conwy
. Cafodd lonydd am y gweddill o'i oes i ymgadarnhau yn ei deyrnas. Y mae'n wir i'r
brenin
Harri
I
ddod â byddin fawr i
Wynedd
yn
1114
, ond ni chollodd
Gruffudd
ddim tir, ac ar ôl hynny ni chymerth ef ei hun odid ddim rhan mewn brwydro. Ond helaethwyd awdurdod
Gwynedd
yn fawr iawn gan ei feibion,
Owain
a
Cadwaladr
, a chyn ei farw yr oedd
Ceredigion
,
Meirionnydd
,
Rhos
,
Rhufoniog
, a
dyffryn Clwyd
o dan reolaeth
Gwynedd
. Bu f., yn
ddall
a methiantus, yn
1137
. Claddwyd ef yn
eglwys gadeiriol Bangor
, a chanwyd ei farwnad gan ei
bencerdd
,
Meilyr
. Bu ei wraig,
Angharad
ferch
Owain ab Edwin
, byw am 25 mlynedd ar ei ôl.
Bu traddodiad ymysg
beirdd
Cymru
i
Gruffudd ap Cynan
wneud trefn a dosbarth ar gerdd dafod
, a defnyddiwyd ei enw er rhoi awdurdod i'r ‘ystatud,’ neu reolau, a luniwyd ynglŷn ag
eisteddfod Caerwys
yn
1523
. Nid oes dim i gadarnhau'r traddodiad hwn, ond y mae'n ddigon rhesymol credu iddo ddod â
beirdd
a
cherddorion
gydag ef o
Iwerddon
, ac fe ddichon i'r rhain ddylanwadu rywfodd ar gerdd dafod a thant yng
Nghymru
. Nid oes dim chwaith yn erbyn credu i
Gruffudd
wneud rhyw gyfnewidiadau ffurfiol ar drefniadau'r beirdd. Y mae'n sicr fod traddodiad cryf a dilys yn yr
16eg g.
i'r perwyl hwnnw. Y mae'n werth sylwi fod yr
Hanes
yn croniclo lladd
Gellan
,
telynor
Gruffudd
ym
Môn
yn
1094
.
Gruffudd ap Cynan
yw'r unig un o
dywysogion
y Cyfnod Canol y mae bywgraffiad iddo ar gael heddiw (gw. llyfryddiaeth isod). Canmoliaeth ddigymysg yw'r gwaith. Y mae digon o dystiolaeth yn yr iaith i brofi mai cyfieithiad o'r
Lladin
ydyw, ond nid yw'r gwreiddiol ar gael. Ysgrifennwyd ef rywdro at ddiwedd y
12fed g.
, gan ŵr eglwysig, mwy na thebyg.
Llyfryddiaeth:
-
History of Gruffydd ap Cynan (1054–1137)
(gol.): , 1910
(ed.
Arthur Jones
),
1910
;
-
A History of Wales
, 1911, 1930
, gw. mynegai;
-
The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion
,
1913-4
, 244;
-
Bulletin of the Board of Celtic Studies
, v, 25.
Awdur:
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor /
Aberystwyth.