Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRUFFYDD ap MADOG neu GRUFFYDD MAELOR I (bu f. 1191 );

mab Madog ap Maredudd a Susanna , merch Gruffydd ap Cynan , a sylfaenydd prif linach deyrnasol gogledd Powys yn ystod y 13eg g. Pan rannwyd y dalaith yn ddwy adran o ddylanwad ar f. Madog ap Maredudd yn 1160 , yr oedd tiroedd i'r gogledd o'r Rhaeadr yn agored i gael eu rhannu unwaith yn rhagor cydrhwng Gruffydd a'i frodyr; gw. Owain Fychan ac Owen Brogyntyn . Ei gyfran ef oedd Maelor a Ial ( Brwmffild a Ial ); at hyn ychwanegodd yntau Nanheudwy yn ddiweddarach, ac, ar farw Owen Fychan yn 1187 , diroedd Cynllaith a Mochnant isaf . Ar wahân i Benllyn ac Edeirnion yr oedd felly wedi aduno gogledd Powys , er mai ei fab hynaf, Madog , a roes ei enw i'r adran hon o'r wlad a alwyd bellach yn Powys Fadog . Priododd ei gyfnither, Angharad , merch Owain Gwynedd , a bu iddo ddau fab — Madog ac Owen .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54