Ar wahân i'r ychydig gerddi maswedd ymranna'r ddwy fil a hanner o linellau o'i waith dan dri thestun, sef canu duwiol, mawl a marwnad, a chanu serch. Ond odid nad yw ei awdlau i'r Grog o Gaer , i Dduw ac i Fair , sydd yn gyfrodedd o gywreinwaith, yn enghreifftiau teg o'i ymlyniad wrth y traddodiad barddol mewn testun a mynegiant. Aelodau un teulu a foliennir ac a farwnedir ganddo, sef Tudur Fychan (bu f. 1367 ), Howel fab Gronwy , Gronwy Fychan (bu f. 1382 ), a Syr Howel y Fwyall (bu f. tua 1381 ) a phurion y gweddai ei alw'n fardd teulu Tuduriaid Penmynydd . Nid annhebygol mai ef yw awdur yr awdl anghyffredin yn gwahodd Owain Lawgoch i adennill ei dreftadaeth. Coron ei waith yw'r cerddi serch. Mewn un gerdd cyrch gartref y rhiain yn Nhref Lywarch ar ‘frondoryf varch,’ ac anoga ef i frysio. Y mae nodweddion diffuantrwydd yn ei awdl farwnad odidog i Wenhwyfar o Fôn , a hawdd credu mai ei brofiad gwirioneddol a geir yn y geiriau ‘gwydyn oedd ym hir vyw gwedy.’
Mesurau traddodiadol yr awdl oedd cyfrwng ei fynegiant, ond diamau ei fod yn un o'r rhai cynharaf i wneud defnydd o englynion unodl union a phroest ar ddechrau awdl. Serch iddo gydoesi â beirdd cynnar cyfnod y cywydd, ymgadwodd rhag defnyddio'r mesur hwnnw. Nodwedd arbennig ei waith yw ceinder medrus synhwyrol wedi ei weithio'n gelfydd i batrwm mor gywrain.
William John Davies, Aberystwyth / Llanidloes