Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRUFFUDD HAFREN ( fl. c. 1600 ), bardd y ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau .

Yn eu plith ceir cywyddau i wahanol aelodau teulu Gogerddan ( Llanst. MS. 118 (376) ), Llyweni ( N.L.W. MSS. 6494 (29, 44), 6495 (64), 6496 (281b) — yn llaw'r bardd , y mae'n debyg), a'r Henllys , sir Benfro ( Llanst. MS. 133 (773) . Canodd ddau gywydd moliant i'r Dr. John Davies o Fallwyd ( N.L.W. MS. 5269 (393b, 405) ), a chywyddau marwnad i'r beirdd Sion Phylip ( N.L.W. MS. 799 (40) ) a Thomas Penllyn ( Cwrtmawr MS. 11 (189) ). Canwyd ymryson rhwng Rhisiart Phylip ac yntau, a Sion Phylip ac Ieuan Tew ( Llanst. MS. 133 (497-500) ); a bu un byrrach rhyngddo a Roger Cyffin ( Cwrtmawr MS. 206 (101) ). Ni chafwyd dim o hanes ei fywyd.

Ffynonellau:

  • 'Dictionary of Welsh Biography.' 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 ;
  • William Owen Pughe , The Cambrian Biography (1803) .

Awdur:

Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54