GRUFFUDD, IFAN neu IEUAN (c. 1655 - c. 1734), prydydd

Enw: Ifan Gruffudd
Dyddiad geni: c. 1655
Dyddiad marw: c. 1734
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Geraint Bowen

Ganwyd yn y Tŵr Gwyn, ' Tredraur ' (Troed-yr-aur), Sir Aberteifi, ac yno y bu farw yn 'agos i bedwar ugain' oed. Cyfansoddodd gryn lawer o halsingod rhwng y blynyddoedd 1672 a 1722, a chyhoeddodd, gyda Samuel Williams, Llandyfriog, lyfryn ohonynt, sef Pedwar o Ganuau, 1718. Y mae un o'i gywyddau ynghadw, sef ' Cywydd i'r Iesu o gynnildeb wyneb yngwrthwyneb ' a argraffwyd yn Meddylieu Neillduol ar Grefydd (1717). Y mae'n awdur englynion a charol haf. Ceir hanes amdano yn ymweled ag eisteddfod Machynlleth 1702 ac yn cael ei ddychanu yno gan Siôn Rhydderch. Canwyd molawd iddo gan ' Iaco ab Dewi ' a marwnadau gan Siencyn Thomas, y Cwm Du, ac Alban Thomas, Blaen Porth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.