GRUFFUDD LEIAF (15fed ganrif), bardd

Enw: Gruffudd Leiaf
Plentyn: Ieuan ap Gruffudd Leiaf
Rhiant: Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor o sir Ddinbych, mab Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS 127 (17)). Ceir englyn o'i waith yn Cwrtmawr MS 242B (1) ac NLW MS 6499B (1). Priodolir cywydd i'r dylluan iddo mewn rhai llawysgrifau hefyd, e.e. Cardiff MS. 64 (552), ac Esgair MS. 1 (37); ond rhoir enw Dafydd ap Gwilym, ac aelodau eraill o deulu Gruffudd, sef Rhobert Leiaf a Syr Sion Leiaf, wrth yr un cywydd mewn amrywiol lawysgrifau eraill; gweler Jones a Lewis, Mynegai. Ceir peth o waith ei fab Ieuan mewn llawysgrifau hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.