GRUFFUDD LLWYD ab IFAN (fl. c. 1564), bardd

Enw: Gruffudd Llwyd ab Ifan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Nid oes dim o'i hanes ar gael, ond ymddengys oddi wrth un o'i gywyddau mai gŵr o sir Fôn ydoedd. Ceir peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r Doctor Elis Prys o Blas Iolyn (NLW MS 1247D (22)), Ieuan ap Sion ap Maredudd o Fryncyr (NLW MS 5282B (49), a Tudur ap Rhobert o Ferain (NLW MS 6495D (118b, 120 - yn llaw'r bardd, y mae'n debyg)). Heblaw'r canu moliant a marwnad, cadwyd cywydd ymryson ganddo i Ruffudd Hiraethog (NLW MS 5269B (280)) a chywydd moliant i Fôn (NLW MS 1559B (315)).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.