Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GWENLLIAN (bu f. 1136 ),

merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad , merch Owain ab Edwin . Daeth yn wraig Gruffydd ap Rhys yn fuan wedi 1116 ; ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys . Pan gychwynnodd y gwrthryfel Cymreig mawr yn 1136 arweiniodd Gwenllian , yn absenoldeb ei gŵr, y cyrch ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref mewn man a elwir yn Maes Gwenllian hyd heddiw.

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54