GWENT, RICHARD (bu farw 1543), archddiacon Llundain

Enw: Richard Gwent
Dyddiad marw: 1543
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archddiacon Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John James Jones

mab i amaethwr o sir Fynwy. Etholwyd ef yn gymrawd o All Souls College, Rhydychen, yn 1515. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r gyfraith a daeth yn ddoethur yn y gyfraith eglwysig yn ogystal a'r gyfraith wladol. Ymarferodd fel cyfreithiwr eglwysig a dewiswyd ef i weithredu ar ran y frenhines Catherine yn 1529. Bu yn dal llawer bywoliaeth eglwysig gyda'i gilydd, ac ymddengys iddo gael ei benodi yn archddiacon Brycheiniog yn 1534. Gwasanaethodd fel dirprwywr i'r archesgob pan wnaeth Cranmer ei ymweliad archesgobol yn 1534. Bu'n llywydd ('Prolocutor') confocasiawn yn 1536, 1540 a 1541, ac yr oedd yn un o'r rhai a benodwyd i ymholi ynghylch cyfreithlondeb priodas Harri VIII ag Anne o Cleves. Yn ei Encomia cyfeiria Leland ato fel 'Richardus Ventanus juridicus' a chanmol ei rinweddau a'i addysg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.