Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GWERFUL MECHAIN ( 1462? - 1500 ), bardd . Y cwbl a wyddys amdani yw mai merch Hywel Fychan o Fechain ym Mhowys oedd hi, ac ategir hynny yng nghywydd Dafydd Llwyd yn danfon Llywelyn ap y Gutun yn llatai ati. Gwyddys fod darnau o'i chywyddau yn nofio ar gof gwlad yn y 19eg g. , oblegid cyfeiria Ap Vychan a Syr Owen M. Edwards at hynny. Cymysgir rhyngddi â Gwerful , ferch Madog o Fro Danad , yn Eminent Welshmen ac Enwogion Cymru ; nid i Werful Mechain y farddes y canodd Guto'r Glyn . Pa fodd bynnag, ni wyddys ond y nesaf peth i ddim amdani. Un yn canu yn ôl ffansi'r foment oedd Gwerful Mechain ; canodd gywydd gwych i'r Iesu yn ei ddioddefaint; lluniodd ambell englyn trawiadol, cynhyrfodd wrth wragedd eiddigus a beirdd gwawdlyd cyffelyb, fel Ieuan Dyfi , Llywelyn ap Gutun , a hynny'n finiog-fras hefyd.

Llyfryddiaeth:

  • Leslie Harris , ‘Barddoniaeth Huw Cae Llwyd’ (traethawd anghyhoeddedig, 1933 , yn Ll.G.C.).

Awdur:

Leslie Harries, M.A., (1901-88), Llaneurgain, Sir y Fflint.