GWILYM ap IEUAN HEN (fl. c. 1440-80), bardd

Enw: Gwilym ap Ieuan Hen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

nad oes dim o hanes ei fywyd yn aros, er bod llawer o'i farddoniaeth i'w chael mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir cywyddau i Fair Forwyn (NLW MS 6681B (381)), ac i Bedair Merch y Drindod (NLW MS 1578B (71)); cywyddau serch (Gwysaney MS 25 (201)); NLW MS 5269B (211)), Wynnstay MS. 6 (170)); cywydd i Gruffudd ap Nicolas o Ddinefwr (NLW MS 6511B (194b)), Dafydd ab Ieuan ab Owain o Gaereinion (Brogyntyn MS. 1 (128)), Dafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o'r Drefnewydd (NLW MS 16B (206)), ac i bendefigion eraill ei gyfnod (Brogyntyn MS. 2 (437b, 439b, 440b)), Cwrtmawr MS 129B (158), Cwrtmawr MS 243B (141), NLW MS 16B (215).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.