GWILYM DDU O ARFON (fl. c. 1280-1320), bardd

Enw: Gwilym Ddu O Arfon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

dywedir iddo drigo mewn llecyn a elwid yn Furiau Gwilym Ddu, ger Glynllifon (Enwogion Sir Gaernarfon). Erys ychydig o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith ddwy awdl a ganodd i Syr Gruffudd Llwyd o Dregarnedd pan oedd hwnnw yng ngharchar yng Nghastell Rhuddlan, ac awdl farwnad i Drahaearn Brydydd ap Goronwy, neu Drahaearn Brydydd Mawr (Jesus College MS. 1 - Llyfr Coch Hergest (1225, 1229)). Priodolir iddo englyn ar goroniad y brenin Edwart II yn 1307 (Enwogion Sir Gaernarfon). Dywedir ei fod yn fardd i'r tywysog Llywelyn ap Gruffudd (Edward Jones, Relicks…), ond ni chafwyd eto un enghraifft o'i farddoniaeth iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.