GWILYM GWYN (fl. diwedd y 15g.), bardd

Enw: Gwilym Gwyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Nid erys unrhyw fanylion am ei fywyd. Cafwyd dwy enghraifft o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywydd i Elian Geimiad, a rydd hanes chwedlonol y sant hwnnw (B.M. Add. MS. 14906 (89b)) a NLW MS 1559B (647), a darn o gywydd arall, i ryw aelod o deulu Gwydrin yn sir Fôn efallai, yn Peniarth MS 114 (213).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.