GWILYM RYFEL (12fed ganrif), bardd

Enw: Gwilym Ryfel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Nid erys o'i waith ond dwy gadwyn o englynion dadolwch i Ddafydd fab Owain Gwynedd. Gellir eu dyddio rhwng 1174 a 1175 pan oedd Dafydd yn rheoli rhannau helaeth o Wynedd gan gynnwys Môn. Y mae Gwilym Ryfel yn un o'r cymdeithion y galerir gan Gruffudd ap Gwrgenau ar ei ôl mewn un o gyfres o englynion mirain, ac o'r englyn hwn (Hendregadredd MS. 76a, The Myvyrian Archaiology of Wales , 257a) casglwn mai gŵr o Bowys oedd Gwilym Ryfel, ac iddo gael ei ladd ymhell o'i fro a neb o'i garennydd yno i ddial ei waed. Ymddengys ei fod, fel Gwalchmai, yn fardd ac yn filwr. Y mae'n sicr fod llawer o'i waith ar goll oblegid y mae Iorwerth Beli (The Myvyrian Archaiology of Wales , 317b), 100 mlynedd neu fwy ar ôl ei ddydd, yn ei enwi'n un o bedwar, gyda Llywarch (Brydydd y Moch), Cynddelw, a Dafydd Benfras, fel y 'prifeirdd heirdd, hardd weision cuddawn,' sef yn un o'r pwysicaf ymhlith Beirdd y Tywysogion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.