GWYN, RICHARD (c. 1537 - 1584), neu RICHARD WHITE, merthyr Catholig

Enw: Richard Gwyn
Dyddiad geni: c. 1537
Dyddiad marw: 1584
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: merthyr Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn Llanidloes c. 1537. Magwyd ef fel Protestant ac aeth yn gyntaf i Rydychen ac oddi yno i Goleg S. Ioan, Caergrawnt. Gadawodd Gaergrawnt yn 1562 a dychwelodd i Gymru. Bu'n cadw ysgol mewn amryw leoedd yn ardal Wrecsam, a thra yn Overton troes yn Gatholig. Ymddengys iddo orfod symud o le i le i osgoi'r awdurdodau; daliwyd ef yn Wrecsam yn 1579 ond llwyddodd i ddianc. Ym mis Gorffennaf 1580 daliwyd ef am yr ail waith, ac wedi pedair blynedd yng ngharchar cyhuddwyd ef o uchel frad gan Lys y Sesiwn Fawr, 9 Hydref 1584, a dienyddiwyd ef yn Wrecsam, 17 Hydref. Canodd bump o gerddi hir a elwir yn garolau, yn ymosod yn llym ar Brotestaniaeth ac yn amddiffyn y ffydd Gatholig. Edrychir arno gan Eglwys Rufain fel cynferthyr Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.