HAINES, WILLIAM (1853 - 1922), hanesydd lleol a llyfryddwr

Enw: William Haines
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1922
Priod: Mary Haines (née Nicholas)
Priod: Clara Ann Haines (née Rutherford)
Rhiant: Elizabeth Haines
Rhiant: Thomas Haines
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd lleol a llyfryddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 24 Mai 1853, yn Bryn, Penpergwm, sir Fynwy, mab Thomas ac Elizabeth Haines. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y Fenni, a daeth yn glerc twrnai. Priododd (1) 1876, Clara Ann Rutherford (bu farw 1880), a (2) Mary Nicholas (bu farw 1944), o Langibby, sir Fynwy. Casglodd lawer o lyfrau, llawysgrifau, dogfennau, a darluniau yn ymwneuthur â sir Fynwy, ac ar ôl ei farwolaeth ef, prynwyd rhan helaethaf y casgliad gan Syr Garrod a'r arglwyddes Thomas a'i roddi ganddynt i lyfrgell tref Casnewydd-ar-Wysg ym mis Ionawr 1924. Cynullodd hefyd lyfryddiaeth y sir, gwaith llafurfawr a anfonwyd (gan ei weddw) i gystadleuaeth yn eisteddfod genedlaethol Pontypŵl, 1933. Erys y gwaith heb ei gyhoeddi, ac y mae yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn deg cyfrol llawysgrif (NLW MS 7541E , NLW MS 7542E , NLW MS 7543E , NLW MS 7544E , NLW MS 7545E , NLW MS 7546E , NLW MS 7547E , NLW MS 7548E , NLW MS 7549E , NLW MS 7550E ). Gyda'r cyfrolau hyn y mae chwe chyfrol eraill o lawysgrifau Haines (NLW MS 7551B , NLW MS 7552B , NLW MS 7553-7554B , NLW MS 7555B , NLW MS 7556B ), yn cynnwys llythyrau ato oddi wrth haneswyr a llyfryddwyr eraill - rhestr o'r gohebwyr yn N.L.W. Handlist of MSS., xi. Bu farw 12 Ionawr 1922 yn ei gartref (y Bryn, Penpergwm)a chladdwyd ef yn eglwys Llangattock-juxta-Usk, gerllaw y Fenni.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.