HALL, BENJAMIN (1778-1817), diwydiannwr;
g. 29 Medi 1778, mab hynaf Dr. Benjamin Hall, canghellor Llandaf. Cafodd ei addysg yn Christ Church, Rhydychen (B.A. 1798; M.A. 1801) a daeth yn fargyfreithiwr (Lincoln's Inn) yn 1801. Priododd, 16 Rhagfyr 1801, Charlotte, merch iau Richard Crawshay, Cyfarthfa [q.v.], a'i gwnaeth yn bartner pan brynodd waith haearn Rhymni (1803); cyflwynodd iddo stad Abercarn yn 1808; cafodd Hall ei wneud yn ysgutor ewyllys ei dad-yng-nghyfraith, a'r un a oedd i gael gweddill ei stad wedi rhannu'r cymynroddion eraill. Hall oedd perchen castell Hensol, sir Forgannwg. Bu'n aelod seneddol dros Totnes, 1806-12, Westbury 1812-4; fe'i dewiswyd dros sir Forgannwg ar 28 Tachwedd 1814 a bu'n aelod hyd ei farw cynnar ar 31 Gorffennaf 1817. Y mae'n bwysig yn hanes Cymru am mai efe ydoedd y diwydiannwr mawr cyntaf i fynd i'r maes gwleidyddol yng Nghymru yn erbyn dylanwad y gwŷr bonheddig tiriog.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- John Lloyd, Old South Wales Iron Works, 1906;
- W. R. Williams, Parl. Hist., 1895;
- The Cardiff Times, 25 Ionawr 1896.
Awdur:
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth