Eithr y mae ei wraig, yr arglwyddes Llanover, yn fwy pwysig yn hanes Cymru nag ydyw ef. Ganed AUGUSTA WADDINGTON ar 21 Mawrth 1802, yn ferch iau Benjamin Waddington, Tŷ Uchaf, Llanover, a Georgina Port, gor-nith Mrs. Delaney. Pan briodwyd Augusta Waddington a Benjamin Hall unwyd dwy stad gyfagos — Llanover ac Abercarn. Yr oedd ei chwaer hi wedi priodi y barwn Bunsen (a fu'n llysgennad yr Almaen ym Mhrydain yn ddiweddarach) ac felly yn byw ymysg pobl yn cymryd diddordeb mewn astudiaethau Celtaidd. Yn 1834, mewn eisteddfod yng Nghaerdydd, enillodd Augusta wobr am draethawd ar yr iaith Gymraeg, a thua'r adeg hon mabwysiadodd yr enw barddol, ‘Gwenynen Gwent.’ O dan ddylanwad Thomas Price (‘Carnhuanawc’) [q.v.] daeth yn aelod cynnar o Gymreigyddion y Fenni. Er mai ychydig o Gymraeg a siaradai hi fe drefnodd ei chartre ar linellau Cymreig a rhoes deitlau Cymraeg i'w gwasanaethyddion. Yr oedd yn noddwr i'r ‘Welsh Manuscripts Society’ ac i'r ‘Welsh Collegiate Institution,’ Llanymddyfri. Prynodd lawysgrifau Edward Williams (‘Iolo Morganwg’) gan ei fab Taliesin Williams (‘ab Iolo’) — y maent bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n cyd-weithio â Maria Jane Williams, Aberpergwm, a Brinley Richards, yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Cymru; rhoes hefyd gymorth ariannol i'r canon D. Silvan Evans gyda'i eiriadur mawr. Yr oedd iddi ddau ddiddordeb arall — yr achos dirwestol a Phrotestaniaeth bybyr. Gwaddolodd ddwy eglwys Bresbyteraidd — capel Rhyd y Meirch ac Abercarn — lle yr oedd y gwasanaeth i fod yn Gymraeg. Golygodd, mewn chwe chyfrol, The Autobiography and Correspondence of … Mrs. Delaney (cyhoeddwyd yn 1861 a 1862), cyhoeddodd gymysgfa o'r enw Good Cookery … and Recipes communicated by the Hermit of the Cell of St. Gover … 1867, gyda darluniau wedi eu gwneuthur ganddi hi ei hunan, ac, yn fwy pwysig o'r safbwynt Gymreig, gasgliad o ddarluniau lliw o wisgoedd merched yn rhai o siroedd Cymru (c. 1843). Yr oedd wedi goroesi ei gŵr am dros 28 mlynedd pan fu f. 17 Ionawr 1896.
Yr unig blentyn o'r briodas a fu byw ydoedd Augusta, a briododd 12 Tachwedd 1846, Arthur Jones, Llanarth, aelod o hen deulu Pabyddol a fabwysiadodd y cyfenw Herbert yn ddiweddarach. Daeth eu mab hwy, Major General Syr IVOR CARADOC HERBERT (1851-1934), yn arglwydd Treowen yn 1917. Efe a drosglwyddodd y Llanover MSS. i'r Llyfrgell Genedlaethol (yn 1916).