HALL, RICHARD (1817 - 1866), bardd

Enw: Richard Hall
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1866
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones

Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes (os nad y cwbl ohoni) yn Aberhonddu, lle yr oedd yn cadw busnes fferyllydd. Yn 1850 cyhoeddodd A Tale of the Past and Other Poems, gyda chyflwyniad i Eliza Cook. Yr oedd ef, fel y dywed ei hunan, yn fodlon i aros ar lechweddau isaf Parnasws, y mynydd y credai ef i Miss Cook lwyddo i'w ddringo i'w big. Bu farw 25 Ionawr 1866 a chladdwyd ef ym mynwent Llanspyddyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.