HAMER, EDWARD (1840 - 1911), hynafiaethydd

Enw: Edward Hamer
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1911
Rhiant: Ann Hamer
Rhiant: Meredith Hamer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: John Davies Knatchbull Lloyd, Edward Ronald Morris

Ganwyd 6 Chwefror 1840 yn Llanidloes yn fab i'r crydd Meredith Hamer a'i wraig Ann. Bu'n ysgolfeistr yn Snatchwood, Talywain (1867), ac Abersychan (1875), sir Fynwy. Dychwelodd i Lanidloes yn 1878 ac ymhen ychydig flynyddoedd aeth i Birmingham.

Ei waith cyntaf oedd The Chartist Outbreak at Llanidloes, a gyhoeddwyd yn 1867. Ysgrifennodd i Archaeologia Cambrensis (e.e. ' Earthworks of Ancient Arwystli') ac i Montgomeryshire Collections (e.e., ' Parochial History of Llangurig,' 1869-70); ditto, ' Llanidloes,' 1871-8; ditto, ' Trefeglwys,' 1879, eithr ni chwplaodd mo'r olaf. Bu'n helpu'r Parch. W. V. Lloyd gyda nodiadau'r gwr hwnnw ar siryfion sir Drefaldwyn (yn Mont. Coll.) a'r Chevalier J. Y. W. Lloyd gyda'i History of Powys Fadog 1881-7.

Bu farw yn Bordesley, Birmingham, 24 Tachwedd 1911 yn 72 oed.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.