HARDING, Sir JOHN DORNEY (1809 - 1868). twrnai'r frenhines ('Queen's Advocate')

Enw: John Dorney Harding
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1868
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: twrnai'r frenhines ('Queen's Advocate')
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd yn Rockfield, sir Fynwy. Am beth amser bu'n ddisgybl i Dr. Thomas Arnold ac yna aeth i Goleg Oriel, Rhydychen, i orffen ei addysg. Graddiodd yn B.A. yn 1830, M.A., 1833, D.C.L., 1837. Y flwyddyn honno dechreuodd weithredu fel twrnai yn y ' Doctors Commons.' Yn 1852 fe'i dewiswyd yn dwrnai'r frenhines a pharhaodd felly hyd 1862. Cafodd ei urddo yn farchog 24 Mawrth 1852. Yn 1839 cyhoeddodd Essay, on the Influence of Welsh Tradition upon European Literature, gwaith a enillodd y wobr a gynigiwyd gan Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn 1838. Bu farw 24 Tachwedd 1868 yn 59 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.