HARRI, MASTR, neu Syr HARRI (15fed ganrif), bardd

Enw: Harri
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

o Gydweli, Sir Gaerfyrddin, a oedd, yn ôl ei deitl, yn ŵr mewn urddau eglwysig; dywedir mai offeiriad Llandyfaelog oedd ef, ond ni wyddys am ddim i ategu hyn. Enwir ef yn Harri (ap) Hywel mewn rhai llawysgrifau (e.e. Hafod MS. 3), a ' Syr ' Harri ap Rhys yn NLW MS 566B ; gelwir ef yn Mastr Harri ap Hywel, a hefyd yn Harri Hir yn Cwrtmawr MS 200B . Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ymryson â'r bardd Ieuan Tew. Bu dau ymryson rhyngddynt; cychwynnwyd y naill gan Ieuan pan ganodd gywydd serch i rywun, ac yntau, yn ôl Mastr Harri, yn hen ŵr; Mastr Harri a ddechreuodd yr ail drwy gyhuddo Ieuan o fynd â mwy na'i ran o ŷd degwm.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.