HARRIS, JOHN (1704-1763), ‘o S. Kennox ’ (ym mhlwyf Llawhaden ), cynghorwr Methodistaidd a Morafaidd, ffermwr —
na chymysger ef â John Harries (1722-1788) [q.v.] ‘o Dreamlod’; g. yn Nhrefdraeth ar ddydd Gwener y Groglith, 1704. Ei wraig oedd Esther Davies (a fu f. 1766), ferch Llewellyn Davies o'r Clynfyw, Maenor Deifi — ei chwaer hi, Letitia, priod James Bowen o'r Dygoed ym mhlwyf Clydai, a wahoddodd Howel Harris i ymweld am y tro cyntaf â sir Benfro, yn 1739. Troes Harris yn gynnar at Fethodistiaeth; efe a groesawodd Howell Davies i sir Benfro, ac yr oedd yn arolygydd nifer o seiadau yng ngwaelod y sir. Erbyn 1748, fodd bynnag, nid oedd hi'n dda rhyngddo a'r Methodistiaid; amheuent hwy ei ddaliadau, a chwynai yntau ar eu ‘hwyl’ a'u gorfoleddu hwythau. Peidiodd â mynychu'r sasiynau, ac yn y diwedd esgymunwyd ef gan Howell Davies. Yn ôl cofnod Morafaidd (gw. Cymm., xlv, 34), cynigwyd bugeiliaeth eglwys Annibynnol Albany yn Hwlffordd iddo; ond o tua 1750 hyd 1753 gwell fu ganddo ef a'r brodyr Relly [q.v.] ymgynnull yn enwad bychan. Yn 1753, daeth dan ddylanwad John Cennick, y cenhadwr Morafaidd, ac ymunodd â'r Brodyr. Bu f. 21 Hydref 1763, a chladdwyd yn S. Thomas, Hwlffordd. Yr oedd chwaer iddo'n wraig i George Gambold [q.v.]. Bu merch Harries, Anne (Davies), yn cadw ysgol yn Hwlffordd; yr oedd hi eto'n fyw yn 1806 — ymddengys ‘Widow Ann Davies, late Harris' yn rhestr cynulleidfa'r Brodyr yn y flwyddyn honno.
Llyfryddiaeth:
- ‘Account of John Harris’ a llawysgrifau eraill yng nghronfa'r Morafiaid yn Hwlffordd.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.