HARRIS, JOSEPH (1704 - 1764), 'Assay-master at the Mint'

Enw: Joseph Harris
Dyddiad geni: 1704
Dyddiad marw: 1764
Priod: Anne Harris (née Jones)
Plentyn: Anna Maria Hughes (née Harris)
Rhiant: Susanna Harris (née Powell)
Rhiant: Howell Harris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'Assay-master at the Mint'
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Llewelyn Gwyn Chambers, Evan David Jones

Mab hynaf Howel a Susannah Harris, Trefeca, a brawd i Howel a Thomas Harris. Bedyddiwyd ef yn Nhalgarth, 16 Chwefror 1703/4. Dygwyd ef i fyny'n of dan Thomas Powell, frawd ei fam, ond aeth i Lundain yn 1724, a daeth i sylw Halley, y seryddwr brenhinol. Anfonwyd ef ar ddwy fordaith i India'r Gorllewin (1725, 1730-2) i brofi effeithiolrwydd offerynnau morwriaethol. Bu wedyn yn athro mewn teuluoedd, ond yn 1737 penodwyd ef yn ddirprwy i'r 'profwr ' yn y Bathdy (swydd a roddai iddo hawl i fyw yn Nhwr Llundain); ac yn 1748 codwyd ef yn brif brofwr ('Assay-master'). Cynhyrchodd lyfrau pwysig, megis The Description and Uses of the Celestial Globe and Orrery, 1729; aeth hwn i ddeg arg. erbyn 1768; A Treatise on Navigation, 1730; An Essay upon Money and Coins, 1757; A Treatise upon Optics, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, yn 1775.

Ysgrifennodd amryw o weithiau seryddol a mathemategol yn ddienw a dyfeisiodd y 'New Azimuth Compass' a'r 'Forestaff'. Cynghorodd lawer ar weinidogion y llywodraeth (heb fod hynny'n wybyddus oherwydd ei swildod) a derbyniodd bensiwn o £300 y flwyddyn gan y brenin yn 1753. Ef, i raddau helaeth, fu'n gyfrifol am safoni pwysau a mesurau'r deyrnas ganol y 18fed ganrif

Cadwodd ei gyswllt â'i deulu ac â'i fro; yn neilltuol, ymdrechodd yn ofer i 'ddysgu synnwyr' i'w frawd Howel - daeth yr holl ffordd i Drefeca i hebrwng Howel i Rydychen i ymaelodi yn y brifysgol; y mae 81 o'i lythyrau yng Nghasgliad Trefeca (Ll.G.C.) heb sôn am 49 o lythyrau Howel ato ef. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol sir Frycheiniog, y gyntaf yng Nghymru, yn 1755. Cyfeirir ato ddwywaith yn Llythyrau'r Morysiaid (i, 183, a ii, 46 - noda'r diwethaf iddo roi gini i Oronwy Owen), a sonia llythyr arall gan Richard Morris (Y Cymmrodor, xlix, 963) am ran Harris yn y gwaith o safoni pwysau a mesurau; yr oedd yn aelod o'r Cymmrodorion. Bu farw 26 Medi 1764, a chladdwyd yn Nhwr Llundain. Ei wraig (a fu farw ym Mai 1763) oedd Anne, ferch a chydetifedd ei gymydog gynt Thomas Jones o Dredwstan. Daeth eu merch, ANNA MARIA HARRIS, yn wraig i Samuel Hughes (un o dystion priodas Elizabeth, ferch Howel Harris); hyhi a etifeddodd gyfoeth ei hewythr Thomas Harris, ac felly y daeth Samuel Hughes 'o Dregunter' yn siryf Brycheiniog yn 1790. Cawsant ddwy ferch, Amelia Sophia a fu farw yn 1794, ac ELIZA ANNE HUGHES, a briododd ddwywaith. Ei gwr cyntaf oedd Roderick Gwynne, Buckland. Bu ef farw 20 Mawrth 1808, a phriododd hithau William Alexander Maddocks, 2 Ebrill 1818.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.