HARTLAND, EDWIN SIDNEY (1848 - 1927), un o arloeswyr astudiaeth wyddonol llên-gwerin

Enw: Edwin Sidney Hartland
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1927
Priod: Mary Elizabeth Hartland (née Morgan)
Rhiant: Edwin Joseph Hartland
Rhiant: Anne Corden Hartland (née Hulls)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr astudiaeth wyddonol llên-gwerin
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Henry John Randall

Ganwyd yn Islington, Llundain, mab Edwin Joseph Hartland, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'i wraig Anne (g. Corden Hulls). Nid oes wybodaeth ar gael ynghylch lle y cafodd ei addysg. Priododd, 13 Awst 1873, Mary Elizabeth, merch ieuengaf Morgan Rice Morgan, ficer Llansamlet, Sir Forgannwg.

Daeth Hartland o Fryste i Abertawe a bu'n gyfreithiwr yno o 1871 hyd 1890 pryd y dewiswyd ef yn gofrestrydd cwrt y sir a chofrestrydd llysoedd y cylch yn Gloucester; yn ddiweddarach daeth yn bennaeth swyddfa'r ewyllysiau yno hefyd. Cymerai ran bwysig mewn llywodraeth leol yn Abertawe ac yn Gloucester, yn enwedig mewn materion addysgol. Bu'n faer Gloucester yn 1902.

Rhoddai Hartland ei holl amser seibiant i astudio anthropoleg a llên-gwerin; yr oedd yn aelod amlwg o'r cwmni bychan o rai o gyffelyb ansawdd a gychwynodd wyddor nad oedd hyd yn hyn wedi ei gwneuthur yn astudiaeth broffesiynol. Y mae rhestr ei gyhoeddiadau yn fynegai i gwrs ei fywyd. Cyfeirir isod at restr lawn o'r cyhoeddiadau hyn, eithr dylid enwi The Science of Fairy Tales (1891), The Legend of Perseus (3 cyfrol, 1892-6), Primitive Paternity (2 gyfrol, 1910), Primitive Society (1921), a Primitive Law (1924), Byddai'n wastad yn mynychu cynadleddau a chyfarfodydd yn ymwneuthur â'i feysydd arbennig ef ei hun, a chafodd raddau ('er anrhydedd') gan S. Andrews a Chymru (D.Litt., 1924). Bu'n llywydd y Folklore Society yn 1899, traddododd Ddarlith Fraser (y gyntaf) yn Rhydychen yn 1922, a dyfarnwyd yr Huxley Medal iddo yn 1923. Bu farw, ar ôl afiechyd hir, 19 Mehefin 1927, gan adael gweddw, mab, a dwy ferch. Y mae llyfrgell a llawysgrifau Hartland yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.