HAWYS (HAWISE) GADARN (1291-cyn 1353),
merch Owen de la Pole a Joanna Corbet ac ŵyres Gruffydd ap Gwenwynwyn [q.v.]. Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd, a fu f. yn 1309, daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton [q.v.] ynghyd â barwniaeth Powys, yn yr un flwyddyn. Bu iddi ddau fab — John, ail arglwydd (Charlton) Powys, ac Owen, a fu f. yn ddietifedd. Y mae'n debyg mai yn nhŷ y Brodyr Llwydion, Amwythig, y claddwyd hi.
Llyfryddiaeth:
- Mont. Coll., i, 49, 58-61, 259, 268.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth