HAYDEN, HENRY SAMUEL (1805 - 1860), cerddor

Enw: Henry Samuel Hayden
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1860
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llanelwy, ei fam yn Gymraes, a'i dad yn Almaenwr ac yn organydd yn Llanelwy. Yn 15 oed penodwyd y mab yn organydd eglwys S. Mair, Caernarfon, a llanwodd y swydd am 40 mlynedd; bu hefyd yn organydd eglwys S. Ann, Llandegai. Cyfieithodd gyfundrefn gerddorol Wïlhelm yn Gymraeg, a chynhaliodd ddosbarthiadau i'w dysgu. Bu'n athro yng Ngholeg Hyfforddiadol Caernarfon, a chyhoeddodd Casgliad o Alawon Cymreig yn cynnwys 28 o alawon. Bu farw 25 Gorffennaf 1860, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanbeblig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.