HENRY, JOHN (1859-1914), cerddor;
g. ym Mhorthmadog, mab i Bennett Williams. Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol, a datblygodd yntau y dalent yn ieuanc. Ymunodd â seindorf Gwirfoddolwyr Caernarfon, ac, yn 13 oed, penodwyd ef yn arweinydd iddi. Meddai ar lais bariton da; dechreuodd gystadlu yn 17 oed, ac enillodd y wobr ym mhob cystadleuaeth ond dwy. Enillodd y wobr ar yr unawd bariton yn eisteddfod Pwllheli, 1875. Yn 21 oed aeth i'r Athrofa Gerddorol Frenhinol, ac wedi gorffen ei gwrs ymsefydlodd yn athro canu yn Llundain, ond oherwydd ei iechyd bu raid iddo ymadael â'r ddinas. Yn 1884 ymsefydlodd yn Lerpwl yn athro cerddoriaeth. Cymerodd ran mewn perfformiadau o'r ‘Meseia,’ ‘Elijah,’ ‘Samson,’ ac eraill o'r cyfanweithiau. Cyfansoddodd lawer o ganeuon a fu'n boblogaidd, megis ‘Teyrn y Dydd,’ ‘Galwad y Tywysog,’ ‘Cân y Bugail,’ ‘Cenwch im' yr hen Ganiadau’; erys ‘Gwlad y Delyn’ yn un o'r caneuon mwyaf poblogaidd. Cyfansoddodd y rhanganau ‘Nos Ystorm’ a ‘Selene,’ y gantawd ‘Olga,’ a'r opera ‘Caradog.’ Bu f. 14 Ionawr 1914, a chladdwyd ef yn Lerpwl.
Llyfryddiaeth:
- F. Griffith Notable Welsh Musicians;
- Y Cerddor, Mawrth 1914.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn