HENRY, THOMAS (1734-1816), fferyllydd;
g. yn Wrecsam, 26 Hydref 1734, yn fab i ysgolfeistr yno a hanoedd o Antrim. Bu'n brentis i apothecari yn Wrecsam ac yn gynorthwywr i apothecari yn Rhydychen; yna, bu'n feddyg ac apothecari ar ei gyfrifoldeb ef ei hunan ym Manceinion. Cyhoeddodd amryw bapurau ar destunau fferyllol a meddygol. Yn 1775, etholwyd ef yn F.R.S. Bu f. 18 Mehefin 1816. Mab iddo ef oedd y fferyllydd enwog WILLIAM HENRY, M.D., F.R.S. (12 Ionawr 1774-2 Medi 1836), a ddarganfu'r egwyddor a elwir ar ei ôl yn ‘Henry's Law,’ ac a sgrifennodd lyfr pwysig ar fferylliaeth. Mab i hwnnw, drachefn, oedd WILLIAM CHARLES HENRY, M.D., F.R.S. (31 Mawrth 1804-7 Ionawr 1892), yntau'n fferyllydd o fri ac yn gyfaill i John Dalton. Ym Manceinion y g. y mab a'r ŵyr.
Llyfryddiaeth:
- T. Iorwerth Jones yn Trans. Cymm., 1932-3 (gyda rhestrau o'u gweithiau).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.