HERBERT, DAVID (1762-1835), clerigwr;
mab William Herbert a Judith ei wraig; g. yn y Rhiwbren, plwyf Llanarth, sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1790. Ordeiniwyd ef Ionawr 1791 gan esgob Rochester, ond dychwelodd i Gymru a daeth yn gurad Llanddeiniol, sir Aberteifi, yng Ngorffennaf 1796. Yn Awst 1801 trwyddedwyd ef yn gurad Llansantffraed (Llanon), ac yn Awst 1812 codwyd ef yn ficer yno. Yn 1814 derbyniodd yn ychwaneg guradiaeth Llanrhystyd, ac yn 1834 eto guradiaeth barhaol Rhydybriw, ym mhlwyf Llywel, sir Frycheiniog. Priododd Mary Price, o'r Felindre Uchaf, Llanfihangel Ystrad; bu iddynt bump o blant. Dilynodd yr hynaf, William (1796-1893), ei dad, a bu'n ficer Llansantffraed (1836-1884); priododd yr unig ferch, Mary, y Parch. David Parry, Llywel [q.v.]. Claddwyd David Herbert 5 Rhagfyr 1835 yn Llansantffraed. Cofir amdano fel offeiriad efengylaidd y bu ei ddylanwad ar ei blwyfolion, ar ôl i'r Methodistiaid ymneilltuo o'r Eglwys, yn gryf ac yn effeithiol. Telir teyrngod arbennig i dreiddgarwch ei feddwl, i'w allu fel pregethwr, ac i'w ddawn i gymodi.
Llyfryddiaeth:
- J.T.J., i, 511-2;
- cofrestrau esgob Tyddewi;
- David Evans, Adgofion Henafgwr, 8;
- Yr Haul, 1836.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth